Love Bangor
Home
Buy T-shirts!
Discounts
Clothing
Food & Drink
Hair and Beauty
Other
Love Bangor

Love Bangor

Love Bangor is quite simply, about loving Bangor! We’re all pretty proud to be here, despite what we say about how much it rains! What other Uni can boast stuff like Snowdonia, the Straits and some of those fantastic beaches around Anglesey! Why not show your allegiance to Bangor by grabbing one of our Love Bangor Tees.

Anyway, as part of us Loving Bangor, it’s only fair that we do our bit to keep it awesome. One of the best ways to do that is to spend in the local shops, money stays in Bangor then, rather than going off to some fancy HQ in London, which means your local pubs and cafes have more money to spend on you guys!

As a bit of incentive for you to do that, we thought you guys deserved some discounts, because, you’re all awesome, and we love you, like we Love Bangor. For years you’ve had the opportunity to save money when shopping with national stores such as Matalan and Amazon with your NUS Extra card, but unfortunately not many of those shops are around in Bangor, so now we bring you the Love Bangor Card – a free add on to your NUS Extra card, that makes your fancy little discount card, locally useable as well!

You can grab your NUS Extra and Love Bangor card here and you’ll be saving tons of cash in no time – have a look at some of the discounts we’ve blagged you:

Caru Bangor
Hafan
Prynwch Crysau-T!
Costyngiadau
Dillad
Bwyd a Diod
Gwallt a Cheinder
Eraill
Caru Bangor

Caru Bangor

Llynedd cafodd yr ymgyrch Caru Bangor ei lansio gan Undeb Myfyrwyr Bangor, ac yn dilyn ei lwyddiant a’r gefnogaeth a gafodd, mae’r ymgyrch nôl gyda hyd yn oed mwy o gariad eleni! Mae yna sawl rhan i’r ymgyrch yma, sydd yn annog myfyrwyr i gymryd balchder yn eu cymuned leol trwy brosiectau fel ‘Sbydwch y Sbwriel’ ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf pan gafodd 17.1 tunnell o wastraff ei gadw o strydoedd Bangor ym mhythefnos olaf y tymor. Eleni mae gennym lawer o wahanol ymgyrchoedd ar y gweill, gan gynnwys yr ymgyrch ailgylchu a’r ymgyrch Myfyrwyr yn eu Blodau, sef cystadleuaeth arddio, ac wrth gwrs bydd gennym ymgyrch gyffrous arall ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.

Yr ail agwedd o Ymgyrch Caru Bangor yw codi ymwybyddiaeth o’r pethau cadarnhaol mae myfyrwyr yn eu cynnig i’r ardal leol, fel y 500+ o oriau mae’n fyfyrwyr yn eu gwirfoddoli i helpu dros 250 o bobl y ddinas a’r cylch pob wythnos, a hynny dim ond o ystyried y rheiny sy’n gwirfoddoli trwy brosiectau GMB. Fel rhan o’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth byddwn yn dechrau prosiect Cynrychiolwyr Caru Bangor, ble bydd myfyrwyr sy’n byw mewn tai yn y gymuned yn gwirfoddoli i ateb cwestiynau myfyrwyr eraill sy’n symud i fyw i’r un cylch i’w helpu i ymgynefino, a hefyd i gynrychioli buddiannau’r myfyrwyr hynny sy’n byw yn yr ardal mewn cyfarfodydd cymunedol ac o fewn yr Undeb.

Ac yn olaf, ond wrth gwrs nid leiaf, Cerdyn Caru Bangor! Ers blynyddoedd rydych chi wedi cael y cyfle i arbed arian wrth siopa gyda chwmnïoedd cenedlaethol fel Matalan ac Amazon yn sgìl y cerdyn NUS Extra ond yn anffodus nid yw llawer o’r siopau cenedlaethol sy’n cymryd rhan yn y cynllun â phresenoldeb ym Mangor i chi allu cymryd mantais o’r holl gynigion yma. Dyna ble y daw Caru Bangor i’r bwlch. Gyda’r cynigion cenedlaethol, nid yn unig ydych chi’r myfyrwyr yn colli allan oherwydd yr angen i archebu popeth ar y we er mwyn cael manteisio ar y prisiau rhatach mae NUS Extra yn eu cynnig, ond mae busnesau lleol ac economi lleol Bangor yn colli allan hefyd. Mae’r Undeb wedi cael dros 45 o fusnesau lleol i arwyddo i’r ymgyrch a chynnig amryw o ostyngiadau a bargeinion i’r myfyrwyr hynny sy’n prynu cerdyn Caru Bangor. Felly am £11 gallech arbed hyd at 20% ar bethau fel:

Archebwch eich cerdyn!