En
Beth yw Nawdd Nos?
Ffynhonnell sy'n cynnig cefnogaeth emosiynol, gwasanaeth gwrando cyfrinachol a chynnig gwybodaeth a gaiff ei redeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr yw Nawdd Nos - felly gallwch fod yn sicr mai cyd-fyfyriwr fydd y llais ar ben arall y ffôn. Fel cyd-fyfyrwyr rydym yn deall bod bywyd Prifysgol yn gyfnod o newid sy'n creu nifer o sialensiau i chi ac mae gallu siarad â rhywun - yn enwedig cyd-fyfyriwr a fydd yn gwrando'n ystyriol ac yn darparu'r holl wybodaeth gywir - yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Ni fyddwn yn eich beirniadu na dweud wrthych beth i'w wneud, ond pa beth bynnag yr ydych chi'n dymuno ei drafod mi fyddwn bob amser yn barod i wrando a chynnig gwybodaeth os ydych yn dymuno hynny. Mae Nawdd Nos yn gwbl gyfrinachol a dienw - felly does dim angen i chi rannu unrhyw wybodaeth nad ydych chi eisiau ei ddatgelu wrthym, ac ni fyddwn byth yn gofyn i chi wneud hynny. Mae ein llinellau ffôn ar agor dros nos - rhwng 8pm – 8am bob nos yn ystod y tymor - amser pan nad oes llawer o wasanaethau myfyrwyr, heb son am deulu a ffrindiau, ar gael.