Sut i ddechrau Cymdeithas
Os oes gennych chi hobi neu ddiddordeb ond yn methu dod o hyd iddo ymysg ein rhestr faith o gymdeithasau… yna pam na wnewch chi sefydlu eich cymdeithas eich hunain?
“Ond sut mae mynd ati i wneud hyn?” fe’ch clywn yn gofyn… wel, yng ngeiriau’r meerkat enwog, mae’n “simples”:
- Yn gyntaf, bydd angen i chi ddod o hyd i bobl eraill sy’n awyddus i ymuno â’r gymdeithas newydd (mae rhwng 10 a 15 yn ddechrau da). Ni ddylai hynny fod yn dasg rhy anodd; rydym yn griw digon amrywiol yma ym Mangor!
- Nesaf, bydd angen i chi feddwl am nodau ac amcanion y gymdeithas a beth yw bwriad y gymdeithas? Beth ydych chi am iddi gyflawni? Pa fath o weithgareddau a direidi ydych chi eisiau eu trefnu? A faint o gyllid ydych chi’n credu y bydd ei angen arnoch?
Atebion ar gefn credyn post os gwelwch yn dda (wedi dweud hynny, rydym hefyd yn derbyn ffurfiau mwy confensiynol o ohebiaeth… ac rydym i gyd yn fyfyrwyr felly fe wnaiff darnau o bapur â staeniau te arnynt y tro hefyd!)
- Yna, galwch i mewn am baned, e-bostiwch eich syniadau atom neu cysylltwch â’r Swyddog Cymdeithasau ym mha ddull bynnag sydd orau gennych ac fe’ch cynorthwywn i lunio cyfansoddiad deniadol a gyda llond gwlad o bethau eraill. Yna byddwch yn barod i gychwyn!