Mae prynu Cerdyn Gweithgareddau Undeb y Myfyrwyr yn caniatáu i chi gymryd rhan mewn rhes o weithgareddau. Mae yna bedwar opsiwn y gallwch eu dewis ar gyfer eich cerdyn yn dibynnu ar eich diddordebau:
Yr Undeb Athletau – dewiswch yr opsiwn yma os ydych eisiau ymuno ag unrhyw un o’n clybiau chwaraeon neu gymryd rhan yn eu gweithgareddau. Mae’r cerdyn yma’n cyfrannu at gost eich yswiriant ac at bot grantiau’r clybiau a gaiff ei ail fuddsoddi yn y clybiau chwaraeon.
Cystadlaethau BUCS – Os ydych chi am chwarae yng nghystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) bydd angen i chi dalu £5 yn ychwanegol ar ben eich cerdyn yr UA. Mae costau cystadlaethau BUCS wedi codi’n serth dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a bydd hyn yn helpu sicrhau bod eich tîm yn gallu teithio, chwarae a gobeithio ennill!
Cymdeithasau – dewiswch yr opsiwn yma os yr hoffech ymuno â’n cymdeithasau (ar wahân i chwaraeon) neu gymryd rhan yn eu gweithgareddau. Mae’r cerdyn yma’n cyfrannu at gost eich yswiriant ac at bot grantiau’r cymdeithasau a gaiff ei ail fuddsoddi yn y cymdeithasau.
UMCB – dewiswch yr opsiwn yma os yr hoffech ymuno ag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor. Mae’n caniatáu i chi gymryd rhan yn nemocratiaeth UMCB, mynychu gigs a digwyddiadau UMCB a chymryd rhan yng nghystadlaethau’r Eisteddfod Ryng-golegol.
Llenwch y ffurflen archeb a thalwch ar-lein am eich cerdyn. Pan fydd eich cerdyn yn barod byddwn yn anfon e-bost atoch i adael i chi wybod – yna fe allwch alw mewn i Undeb y Myfyrwyr i’w gasglu ac osgoi ciwio!